

Mae ein harwyddair ‘Cofia Ddysgu Byw’ yn crisialu ein nod o baratoi disgyblion ar gyfer bywyd tu hwnt i ysgol. Credaf ein bod yn paratoi disgyblion trwy ddatblygu eu sgiliau a’u gwerthoedd ar gyfer bywyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac i wynebu sialensiau yr unfed ganrif ar hugain.
Rydym yma i gydweithio i greu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf. Disgwyliwn y safon orau posibl gan ein disgyblion ac fe wnawn ein gorau i roi pob cyfle ac arweiniad iddynt hwy.
Derbyniodd yr ysgol glod am ei llwyddiant academaidd ysgubol ar lefel sirol a chenedlaethol. Mae cyfoeth ac ehangder y gweithgareddau allgyrsiol wedi bod yn nodwedd bwysig o fywyd a diwylliant yr ysgol hefyd ers y cychwyn. Ymfalchïwn yn ein llwyddiannau academaidd, diwylliannol a chwaraeon ac yng nghynnydd pob disgybl beth bynnag fo’i ddawn a’i ddiddordeb. Un o gryfderau mwyaf yr ysgol yw ei hethos Gymraeg, a’i chymuned ofalgar, agored a hapus lle y mae disgyblion yn teimlo’n gartrefol ac yn mwynhau eu haddysg. Ein prif nod fel ysgol yw gwneud dysgu yn brofiad cyffrous a phleserus a hynny yn bennaf trwy ddefnyddio dulliau dysgu ac addysgu diddorol a gweithredol yn ein gwersi. Mae pob disgybl yn bwysig fel unigolyn, a phob unigolyn yn bwysig fel aelod o ‘deulu’ Ysgol y Preseli. Yr egwyddor hon o barchu’r unigolyn a gosod anghenion yr unigolyn yn y canol sydd wrth wraidd ethos, gwerthoedd a llwyddiant yr ysgol fel ysgol dda.
Mrs Rhonwen Morris
BETH SYDD YMLAEN
Diwrnod HMS. Yr Ysgol ar gau i ddisgyblion
29.11.21
Arnholiadau Mewnol / Arholiadau Ffug
30.11.21 - 3.12.21
Dirwrnod Iechyd Blwyddyn 7
8.12.21
Diwrnod Iechyd Blwyddyn 8
9.12.21
Diwrnod Iechyd Blwyddyn 9
10.21.21