CWRICWLWM
Bydd yr ysgol yn sicrhau fod y cwricwlwm yn ateb gofynion y cwricwlwm cenedlaethol ond wedi’i gynllunio i gwrdd ag anghenion pob disgybl. Bydd yn adlewyrchu cymeriad, amgylchiadau ac ethos unigryw yr ysgol a’r gymuned.
Patrwm y Cwricwlwm
Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7, 8 a 9)
Ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 astudir y pynciau canlynol:
Cymraeg
Ffrangeg
Saesneg
Technoleg
Mathemateg
Celf
Gwyddoniaeth
Cerdd
Hanes
Addysg Gorfforol
Daearyddiaeth
Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Drama
Astudiaethau Crefyddol
Technoleg Gwybodaeth
Cyflwynir Sbaeneg ym Mlwyddyn 9
Cyfnod Allweddol 4 (Blynyddoedd 10 ac 11)
Pynciau Gorfodol
Mae pob disgybl yn astudio’r pynciau canlynol:
Cymraeg
Saesneg
Mathemateg
Gwyddoniaeth
Astudiaethau Crefyddol
Addysg Gorfforol
Bagloriaeth Cymru Sylfaenol neu Ganolradd
Pynciau Dewis
Yn ychwanegol at hyn bydd pedwar grwp dewis yn cynnwys y pynciau canlynol:
Dylunio a Thechnoleg - Deunyddiau Gwrthiannol, Daearyddiaeth, Cerdd, Datblygiad Plentyn, Sbaeneg, Celf, Ffrangeg, Dylunio a Thechnoleg - Prosesau Graffeg, Hanes, Astudiaethau Crefyddol, Arlwyo, Addysg Gorfforol, Drama, Technoleg Gwybodaeth, Gwyddoniaeth Estynedig, Cemeg, Bioleg, Ffiseg, Gwyddoniaeth Gymhwysol, BTEC Tystysgrif Cyntaf Peirianneg. Hamdden a Thwristiaeth Gymhwysol. Bydd pob disgybl yn dewis un pwnc o bob Grwp Dewis.
Hefyd mewn cydweithrediad ag asiantaethau allanol, cynigir Peirianneg NVQ1/2 a Sgiliau Salon.
Yn yr ysgol uwchradd asesir safon pob disgybl ar ddiwedd Blwyddyn 9 yn 14 oed ac ar ddiwedd Blwyddyn 11 yn 16 oed h.y. ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4.