PWYLLGOR FFRINDIAU
Annwyl Rhiant/Warcheidwad
Hoffwn annog chi i ddod yn rhan o Ffrindiau Ysgol y Preseli ac ymuno gyda ni i helpu’r ysgol. Pob blwyddyn mae’r criw bach yma o rieni a staff yn trefnu nifer o ddigwyddiadau gwahanol gan gynnwys y Ffair Nadolig, bore coffi, twrnamaint golf a’r ‘Clwb 300’. Blwyddyn dwethaf llwyddwyd i godi dros £12,000 a chafodd yr arian hyn ei ddosbarthu i’r gwahanol adrannau o fewn yr ysgol er mwyn iddynt brynu offer ac adnoddau i gyfoethogi addysg ein plant.
Gallwch helpu mewn nifer o ffyrdd;
Ymuno â’r pwyllgor
Cefnogi ein gweithgareddau
Helpu gyda’r ffair Nadolig a’r bore coffi
Ymuno â’r Clwb 300
Cyfrannu gwobr raffl
Ydi eich busnes yn gallu cynnig nawdd?
Os gallwch helpu mewn unrhyw ffordd plis dewch i’r cyfarfod nesaf neu cysylltwch â’r ysgol
Mrs Siân Bowen (Cadeirydd)